Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Pryd?

3-5 Medi 2015

Ble?

Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
Wales, UK
LL57 2DG

Teithio a Gwrthdaro yn y Byd Canoloesol a Modern Cynnar 2015

Prif siaradwyr

Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r prif siaradwyr a ganlyn:

  • Daniel Carey (National University of Ireland, Galway)
  • Judith Jesch (University of Nottingham)
  • Sebastian Sobecki (University of Groningen)

Y digwyddiad hwn fydd yr ail gynhadledd ddwyflynyddol i'w chynnal gan Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar Aberystwyth-Bangor. Fe'i cynhelir ym Mhrifysgol Bangor, 3-5 Medi 2015.

Trefnwyr y gynhadledd yw Rhun Emlyn a Gabor Gelleri o Aberystwyth ac Andrew Hiscock a Rachel Willie o Fangor.

Mae'r pwyntiau cyfarfod rhwng teithio, symudedd a gwrthdaro'n niferus. Gall nifer o resymau ysgogi teithio. Yn Ewrop ganoloesol y prif resymau dros deithio oedd duwioldeb, drwy fynd ar bererindod i fannau cysegredig; rhyfela ac ysbeilio, a masnachu. Fodd bynnag, byddai'n rhy hawdd awgrymu deuoliaeth glir rhwng cyfyngiadau'r oesoedd canol a'r teithio ac ymchwilio mwy hamddenol yn y cyfnod modern cynnar. Tan yn gymharol ddiweddar, roedd teithio domestig a mordeithiau i'r byd ehangach yn parhau'n beryglus.

Mae ysgrifennu wtopaidd ym maes ffuglen a theithio yn ddau genre sydd wedi cael eu gosod ochr yn ochr gan ysgolheigion sy'n cydnabod sut mae'r genres hyn yn ail-ffurfio trafodaethau canoloesol ar y cyflwr delfrydol ar gyfer cynulleidfa fodern gynnar. Mae teithwyr blinedig yn cyrraedd mannau amhenodol yn ddaearyddol yn cynnwys cymdeithasau delfrydol, ond mae'r cymdeithasau delfrydol hyn wedi'u gosod mewn lle ffiniol rhwng dychymyg a realiti: nid yw'r mannau hyn o fewn cyrraedd yn y pen draw oherwydd yr amwysedd a'r mwyseiriad sy'n bresennol yn y naratif. Mae hyn yn arwain at ganolbwyntio tensiynau o fewn dogfennu teithio dychmygol a'r byd materol. Ymhell o fod yn gyfrwng cytgord, deuant yn fannau o wrthdaro. Gall gwrthdaro lesteirio teithio – boed y teithio'n wirioneddol neu ddychmygol, neu os ydyw at ddibenion cyhoeddus neu breifat; mae'n parhau'n gyfyngedig yn aml a dadlau mawr yn ei gylch.

Mae'r gynhadledd ryngddisgyblaethol hon yn dod ag ysgolheigion sy'n gweithio ym meysydd astudiaethau canoloesol a modern cynnar ynghyd i gwestiynu'r berthynas rhwng teithio a gwrthdaro.

Dilynwch y wefan hon a'n cyfrif Twitter: @travel_conflict

Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi ym Mangor fis Medi!

Site footer